SL(6)122 - Rheoliadau Treth Gwrediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi a fydd yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu wedi hynny.

Dyma’r cyfraddau o 1 Ebrill 2022 ymlaen:

-      Y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell (wedi’i chynyddu o £96.70 y dunnell),

-      Y gyfradd is yw £3.15 y dunnell (wedi’i chynyddu o £3.10 y dunnell)

-      Y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell (wedi’i chynyddu o £145.05 y dunnell).

Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2022 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau a ragnodwyd yn Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

Y weithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rhaid i'r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r tair cyfradd ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Rhagfyr 2021